P-06-1544 Dylid cymryd camau brys i wella'r GIG yng Ngorllewin Cymru, a mynd i'r afael â'r argyfwng yn Ysbyty Glangwili.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christine Castle, ar ôl casglu cyfanswm o 1,304 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae lleihau/cau gwasanaethau mewn ysbytai eraill ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda wedi achosi argyfwng yng Nglangwili. Mae cleifion yn gorfod teithio pellteroedd mawr i gyrraedd gofal brys, gan felly gynyddu dibyniaeth ar ambiwlansys.

Nid yw'r Uned Penderfyniadau Clinigol (CDU) bellach yn weithredol fel Uned Penderfyniadau Clinigol go iawn ac mae'n gweithredu fel ward, gyda chleifion sâl yn cael eu gorfodi i gysgu mewn cadeiriau yn yr Uned honno neu i aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys gan nad oes lle ar ward i'w derbyn i’r ysbyty. Mae staff y GIG yn gwneud eu gorau ond mae'r sefyllfa'n anghynaladwy.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd